Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Connie Carpenter-Phinney |
Dyddiad geni | 26 Chwefror 1957 |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd a trac |
Rôl | Reidiwr |
Golygwyd ddiwethaf ar 20 Tachwedd 2008 |
Cyn seiclwraig a sglefrwraig cyflymder Americanaidd yw Connie Carpenter-Phinney (ganwyd 26 Chwefror 1957 ym Madison, Wisconsin). Enillodd bedwar medal ym mhencampwriaethau seiclo'r byd ar y trac a'r ffordd yn yr 1970au hwyr a'r 1980au cynnar. Enillodd hefyd y fedal aur cyntaf erioed ar gyfer seiclo i ferched yn y Gemau Olympaidd, pan enillodd y ras ffordd merched yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984 yn Los Angeles. Mae hefyd wedi bod yn bencampwraig yr Unol Daleithiau ddeuddeg gwaith.